Llun: PA
Daeth taith grŵp o gefnogwyr pêl droed Cymru, oedd yn ceisio cyrraedd Toulouse ar gyfer y gêm yn erbyn Rwsia heno, i stop ar ôl i’w awyren gael ei tharo gan fellt a tharanau.

Roedd disgwyl i’r awyren easyJet hedfan o faes awyr Gatwick yn Llundain i Toulouse ddydd Sul ond mae’n debyg ei fod wedi gorfod aros yn Bastia, Corsica, am wiriadau diogelwch ar ol cael ei tharo gan fellt brynhawn dydd Sadwrn.

Yn ôl yr Independent, roedd tua 100 o gefnogwyr Cymru wedi archebu tocyn ar yr awyren honno, ac mae rhai ohonyn nhw wedi gwneud trefniadau eraill ar frys i geisio cyrraedd De Ffrainc cyn y gêm.

Edrych am opsiynau eraill

Dywedodd un teithiwr, Ann Williams, ar Twitter ei bod wedi llogi car ac wedi teithio drwy’r Eurotunnel i gyrraedd Toulouse mewn pryd.

Fe wnaeth cefnogwr arall, Paul Edwards, drydar: “Sut gall easyJet ganslo taith gyda llai na 12 awr o rybudd? A methu cynnig taith arall nes 24 awr yn ddiweddarach. Gyrru i Toulouse.”

Ymddiheurodd llefarydd ar ran y cwmni, gan ddweud ei fod wedi ystyried “pob opsiwn arall” cyn penderfynu canslo’r daith.

“Gan nad oedd unrhyw daith arall gydag easyJet ar gael tan ddydd Mercher, cafodd teithwyr eu cynghori eu bod yn gallu trefnu ffyrdd arall o deithio, dan amodau tebyg,” meddai.

“Roedd ein staff wedi gweithio’n galed i edrych am opsiynau eraill gyda chwmnïau eraill, yn anffodus doedd dim opsiwn dan amodau tebyg ar gael.

“Bydd teithwyr a wnaeth eu trefniadau teithio eu hunain yn cael iawndal am bob cost resymol.”