Cafodd naw o blismyn eu hanafu yn Swydd Essex nos Sadwrn wrth iddyn nhw geisio tawelu pobol mewn parti anghyfreithlon.

Roedd miloedd o bobol yn y parti yn Barking, meddai’r heddlu.

Bu’n rhaid i bedwar plismon dderbyn triniaeth yn yr ysbyty wrth i naw o bobol gael eu harestio.

Roedd oddeutu 1,000 o bobol y tu fewn i’r adeilad a 1,000 yn rhagor y tu allan.

Cymerodd rai oriau i symud pobol oddi yno, meddai’r heddlu.

Mae’r ffyrdd yn yr ardal ynghau wrth i’r heddlu barhau ar y safle am y tro wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.