Mae tair merch 12 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cymryd tabledi ecstasi nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Salford am oddeutu 9.50 ac mae’r heddlu’n ymchwilio i sut y cawson nhw afael ar y tabledi.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol ifanc i gadw draw o’r cyffur, sydd eisoes wedi achosi marwolaeth dynes 22 oed yn yr ardal yn ddiweddar.

Mae’r tabledi wnaeth y merched eu cymryd yn cael eu galw’n ‘teddy tablets’, ac mae’r heddlu wedi apelio ar bobol i fynd â’r tabledi at yr heddlu os ydyn nhw’n dod o hyd i rai.