Llun: Post Brenhinol
Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi gostyngiad o 33% yn ei elw cyn treth y llynedd i £267 miliwn.
Meddai’r cwmni bod costau trawsnewid, fel taliadau pensiwn, wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad.
Fodd bynnag, cododd refeniw’r Post Brenhinol 1% i £9.2 biliwn ac mae’r prif weithredwr Moya Greene wedi canmol “perfformiad cadarn” y cwmni.
Er enghraifft, mae gwasanaeth dosbarthu parseli’r Post Brenhinol wedi gweld cynnydd o 3%, er bod cwmnïau fel FedEx ac UPS wedi cymryd cyfran o’r farchnad.
O dan reolaeth y prif weithredwr Moya Greene, mae’r cwmni wedi cychwyn ar ymgyrch uchelgeisiol i dorri costau ac fe gadarnhaodd y Post Brenhinol ei fod wedi colli 3,500 o staff yn ystod y flwyddyn.
Yn y DU, bu gostyngiad refeniw o 1% i £7.6 biliwn wrth i nifer y llythyrau sy’n cael eu hanfon ostwng 3%.
Cafodd y cwmni 500 mlwydd oed ei breifateiddio yn 2013 ac mae cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng dros 3% y bore ‘ma.