Mae cynrychiolwyr ar ran doctoriaid a’r Llywodraeth wedi cytuno ar system newydd ar gyfer meddygon iau yn Lloegr.

Mae’r cytundeb, a ddaeth wedi wyth diwrnod o drafodaethau dwys, yn cynnwys strwythur cyflog wedi ei ddiwygio ar gyfer penwythnosau a nosweithiau gwaith.

Bydd y cytundeb, rhwng Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a’r Llywodraeth, nawr yn mynd i bleidlais gan feddygon.

O dan y cytundeb newydd, bydd meddygon sy’n gweithio ar ddyddiau Sadwrn a Sul yn cael y tâl uchaf os yw’r meddygon hynny’n gweithio saith neu fwy o benwythnosau mewn blwyddyn.