Syr Cliff Richard
Mae erlynwyr yn ystyried a ddylid dwyn cyhuddiadau yn erbyn y diddanwr Syr Cliff Richard ynglŷn â honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) y byddai’n “ystyried yn ofalus” dogfen o dystiolaeth sydd wedi cael ei gyfeirio atyn nhw gan Heddlu De Swydd Efrog.
Mae’r canwr 75 oed wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le. Cafodd cyrch ei gynnal ar ei gartref yn Berkshire ym mis Awst 2014 a’i ddarlledu ar y teledu yn sgil cytundeb rhwng y BBC a Heddlu De Swydd Efrog.
Cafodd Cliff Richard ei holi gan yr heddlu yn 2014 ac unwaith eto’r llynedd fel rhan o’u hymchwiliad ond nid yw wedi cael ei arestio na’i gyhuddo.
Mae ditectifs yn ymchwilio i honiad o drosedd rhyw yn ymwneud a bachgen ifanc yn y 1980au.
Fe fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron nawr yn ystyried a oes digon o dystiolaeth i sicrhau euogfarn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cliff Richard “na fyddai’n briodol i wneud sylw” ar hyn o bryd.