Efa Lois
Efa Lois sydd yn trafod ymdrechion y trigolion i wella bywydau’r digartref
Wrth i fy nhair blynedd o astudio yn Lerpwl ddirwyn yn araf i ben dw i’n sylweddoli bod sawl peth am y ddinas hon yn dod i’r amlwg i mi.
Cyn i mi ddod yma i astudio roedd pawb yn dweud wrthyf mai pobl hollol hyfryd oedd y ‘Scousers’, ac er bod hynny wedi cael ei brofi’n llwyr i mi erbyn hyn, mae rhywbeth penodol iawn am y ddinas hon yr hoffwn i’w drafod.
Tra bod amryw ddinasoedd ledled y byd yn paentio eu hadeiladau er mwyn atal pobl rhag piso yn eu herbyn, neu’n gosod cethrau mewn drysau a chulfannau er mwyn atal y digartref rhag llochesu yno, mae pobl dinas Lerpwl yn barod i ymdrin â gwella bywydau’r digartref eu hunain.
Coffi i gymydog
Pan fyddaf yn cerdded lawr Bold Street, yn enwedig yn y gaeaf, byddaf yn aml yn gweld pobl yn dosbarthu cawl i’r digartref, neu’n clywed am ryw fwyty sy’n rhoi pryd i’r digartref am bob pryd a gaiff ei brynu yno.
Mae system ‘suspended coffee’ bellach yn weithredol mewn sawl caffi yn y ddinas, lle gallwch chi brynu coffi ac yna prynu un arall y gall rhywun sy’n ddigartref ei hawlio yn hwyrach yn y diwrnod.
Un o’r llefydd sy’n cynnig y gwasanaeth hwn yw caffi yn y ddinas sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol, lle mae’r elw a gaiff ei wneud yn mynd tuag at helpu’r rheiny yn y gymuned sydd wedi dioddef o alcoholiaeth a chaethiwed i gyffuriau.
Hen ddihareb
Mae un o’r canolfannau ar gyfer helpu’r digartref, Canolfan Whitechapel, yn rhan o’r rhaglen ‘No Second Night Out’, sy’n annog pobl i helpu’r ganolfan trwy alw rhif arbennig os ydyn nhw’n poeni am rywun sy’n cysgu ar y stryd.
Mae posteri’r rhaglen yn dweud ei fod yn ‘bosib bod miliwn o resymau pam byddai rhywun yn cysgu ar y strydoedd am noson. Does dim rheswm pam byddai unrhyw un yn cysgu ar y strydoedd am ail noson’.
Mae yna hen ddihareb Wyddelig sy’n dweud mai ‘byw yn lloches ei gilydd y mae pobol’. Wn i ddim am lefydd eraill, ond mae hyn yn sicr yn wir yn Lerpwl.
Mae Efa Lois yn fyfyrwraig Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yn wreiddiol o Aberystwyth.