Heddlu Lloegr Llun: PA
Mae troseddau rhyw a gofnodwyd gan yr heddlu ar ei uchaf erioed, yn ôl ffigurau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Cafodd cyfanswm o 103,614 o droseddau rhyw eu cofnodi gan heddluoedd Cymru a Lloegr yn 2015 – cynnydd o 29% ar y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mai dyma’r tro cyntaf i fwy na 100,000 o droseddau rhyw gael eu cofnodi ers cyflwyno’r Safon Cofnodi Troseddau Genedlaethol yn 2003.

Meddai’r ONS mai gwelliannau mewn gweithdrefnau cofnodi’r heddlu a mwy o barodrwydd gan ddioddefwyr i ddod ymlaen i adrodd am droseddau o’r fath sy’n gyfrifol am y cynnydd.

Ar y cyfan, dangosodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr bod tua 6.4 miliwn o achosion o droseddau yn ymwneud a chartrefi ac oedolion dros 16 oed yn 2015. Roedd hyn yn ostyngiad o 7% ar ffigyrau’r flwyddyn flaenorol.