Y Frenhines Elizabeth
Wrth i’r Frenhines Elizabeth ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed heddiw, bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i nodi’r garreg filltir.
Ymysg y digwyddiadau fydd tanio ffagl ar ben Yr Wyddfa heno. Bydd y ffagl yn un o 1,000 sy’n cael eu tanio ar draws y DU, a’r byd, gyda’r cyntaf ohonyn nhw’n cael ei danio gan y Frenhines yng Nghastell Windsor.
Yn ogystal, am hanner dydd, fe fydd gynnau mawr yn cael eu tanio ar draws y DU, gan gynnwys yng Nghastell Caerdydd.
Cafodd y Frenhines Elizabeth ei geni ar 21 Ebill 1926 a hi yw’r brenin neu’r frenhines gyntaf i deyrnasu yn 90 mlwydd oed.
Yn ystod ei theyrnasiad 64 mlynedd, mae hi wedi gweld 12 o brif weinidogion – o Syr Winston Churchill i David Cameron – yn dod a mynd.
Fe fydd yr Arlywydd Barack Obama yn galw heibio i gael cinio gyda hi ddydd Gwener – fe yw 12 Arlywydd yr Unol Daleithiau i gwrdd a’r Frenhines.
Mae disgwyl i’w mab, y Tywysog Charles, wneud araith radio ar BBC World Service ac fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn annerch Tŷ’r Cyffredin hefyd.