Ymghynghoriad dros gau ysgolion ym Mhowys Llun: Gwefan Cyngor Powys
Fe wnaeth oddeutu 800 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus neithiwr i drafod cau ysgol uwchradd Gwernyfed yn ne Powys.
Roedd yr ymgynghoriad terfynol yn un o bedwar sydd wedi cael eu cynnal o amgylch y sir i drafod dyfodol pedair ysgol uwchradd.
Roedd y cyfarfod cyhoeddus nos Fercher yn trafod cynlluniau i gau ysgolion uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu a chreu un ysgol newydd, yn gweithredu dros ddau safle o fis Medi 2017 ymlaen.
Mae cyfarfodydd cyhoeddus i drafod uno ysgolion uwchradd Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod eisoes wedi bod.
Gobaith cyngor Powys yw y bydd y cynlluniau yn lleihau costau ac yn mynd i’r afael â’r broblem o leoedd gwag.
Ond mae pobl leol yn erbyn y cynlluniau gydag un ddeiseb yn erbyn cau ysgol Gwernyfed wedi derbyn dros 1,600 o lofnodion.
Roedd Aled Davies, ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau’r Cynulliad, yn y cyfarfod neithiwr.
Dywedodd fod cymuned Gwernyfed wedi colli ffydd yng Nghyngor Powys ac nad oedden nhw’n teimlo bod yr achos dros gau wedi cael ei wneud.