Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae’r pêl-droediwr Ched Evans wedi ennill apêl yn erbyn ei ddyfarniad am dreisio merch 19 oed yn Y Rhyl.

Ond mae barnwyr yn y Llys Apêl yn Llundain wedi gorchymyn y bydd yn gorfod wynebu achos o’r newydd.

Fe gyhoeddodd y tri barnwr  – Y Fonesig Ustus Hallett, Mr Ustus Flaux a Syr David Maddison – eu penderfyniad bore ma yn dilyn proses apêl fis diwethaf.

Roedd Ched Evans yn y llys yn Llundain, gyda’i gariad Natasha Massey wrth ei ochr, i glywed y penderfyniad.

Cafwyd cyn-bêl-droediwr Cymru a Sheffield United, sy’n 27 oed, yn euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Ebrill 2012 am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl.

Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) sy’n ymchwilio i gamweinyddiad cyfiawnder posibl.

Wrth gyhoeddi penderfyniad y llys, dywedodd Y Fonesig Ustus Hallett eu bod wedi clywed “tystiolaeth newydd” yn ystod y gwrandawiad apêl ar 22 a 23 Mawrth.

“Rydym wedi dod i’r casgliad bod yn rhaid i ni ganiatáu’r apêl a bod yn rhaid cynnal ail achos er mwyn sicrhau cyfiawnder.”

Mae ei ddyfarniad wedi cael ei ddileu.

Mewn datganiad tu allan i’r llys, dywedodd cyfreithiwr Ched Evans ei fod yn “hynod ddiolchgar” i’r barnwyr am eu penderfyniad, ond na fydd yn gwneud sylw pellach gan fod y broses gyfreithiol yn parhau.