Llun: PA
Byddai Llywodraeth Cymru yn prynu cyfran o weithfeydd dur cwmni Tata er mwyn achub y gwaith ym Mhort Talbot petai hynny’n fforddiadwy, meddai Carwyn Jones neithiwr.

Roedd Prif Weinidog Cymru’n siarad mewn dadl etholiadol rhwng arweinwyr y prif bleidiau sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad ar ITV Cymru pan wnaeth y sylw.

Heddiw mae gweinidog busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, a Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Edwina Hart yn cymryd rhan mewn cyfarfod ym Mrwsel i drafod yr argyfwng.

Mae adroddiadau hefyd bod y biliwnydd a pherchennog gwesty’r Celtic Manor, Syr Terry Matthews, yn helpu i lunio consortiwm o’r sector cyhoeddus a phreifat yn ne Cymru fyddai’n gallu cefnogi cynllun i brynu’r gweithfeydd. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fyddai Syr Terry Matthews yn buddsoddi ei arian ei hun yn y consortiwm.

Yn ogystal, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns  ar y Post Cyntaf y bore ma’ y bydd yn trafod gyda gweithwyr safleoedd Tata yn Llanwern a Throstre heddiw ynglŷn â pha gymorth y bydd Llywodraeth y DU yn ei roi i ddarpar brynwyr y gweithfeydd.

Dadl

Yr argyfwng dur oedd un o brif bwyntiau trafod y ddadl neithiwr. Mae dyfodol y gweithfeydd wedi bod yn y fantol ers i’r cwmni o India gyhoeddi eu bod yn bwriadu gwerthu eu holl safleoedd yn y DU.

Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, oedd y cyntaf i awgrymu y dylai cyfran o’r cwmni gael ei brynu gan Lywodraeth Cymru. Nododd Carwyn Jones bod y Llywodraeth wedi gwneud rhywbeth tebyg gyda chwmnïau eraill hefyd, fel Maes Awyr Caerdydd, felly bod yr opsiwn yn un i’w ystyried.

Meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod angen meddwl yn ddwys am bob opsiwn sydd ar y bwrdd a bod angen i Lywodraethau Cymru a’r DU weithio’n agosach â’i gilydd tra bod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, yn credu bod angen amddiffyn asedau’r gweithfeydd.

Meddai Nathan Gill o UKIP bod y pleidiau eraill yn anghyson a bod angen llais cryf tra bod y Blaid Werdd wedi awgrymu ail wladoli’r diwydiant dur.

Daeth sylwadau’r arweinwyr wedi adroddiadau bod un o gyfarwyddwyr safle Port Talbot, Stuart Wilkie, yn ystyried llunio tîm rheoli i brynu safleoedd Tata.

Cafodd y datblygiad diweddaraf ei groesawu gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, sydd eisoes wedi dweud y dylai’r llywodraeth ystyried opsiynau fel gwladoli dros dro, neu brynu rhan o’r gweithfeydd.

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi croesawu’r newydd – ond mae Andrew RT Davies wedi beirniadu agwedd y Blaid Lafur wrth ddelio â’r sefyllfa.