Fe gododd chwyddiant i’w lefel uchaf ers 15 mis ym mis Mawrth wrth i gostau cynyddol am ddillad a theithiau awyren gynyddu costau byw.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi cyrraedd 0.5% fis diwethaf ar ôl i brisiau dillad godi 1.7%, tra bod costau teithiau awyr wedi cynyddu 17.9% ers y llynedd, yn bennaf oherwydd y Pasg cynnar.
Roedd prisiau petrol hefyd wedi cynyddu 0.9% rhwng mis Chwefror a Mawrth gan gyrraedd 102.3c y litr.
Ond fe ddisgynnodd prisiau bwyd 3% o’i gymharu â llynedd wrth i’r archfarchnadoedd barhau i dorri prisiau oherwydd cystadleuaeth yn y farchnad.
Er bod CPI wedi cynyddu ym mis Mawrth – roedd yn 0.3% ym mis Chwefror – mae’n parhau i fod yn llawer is na tharged Banc Lloegr o 2%.
O ganlyniad, nid yw’r Banc ar frys i godi cyfraddau llog yn uwch na 0.5% sydd wedi aros ar yr un lefel ers saith mlynedd.
Mae ffigurau’r ONS hefyd yn dangos bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) sy’n mesur chwyddiant wedi codi i 1.6% ym mis Mawrth, o 1.3% ym mis Chwefror.