James Williams
Mae dyn 31 oed  a gafwyd yn euog o lofruddio dyn o Gaerdydd mewn ymosodiad gyda morthwyl, wedi cael ei garcharu am oes.

Bydd James Williams, 31, yn gorfod treulio isafswm o 20 mlynedd dan glo am lofruddio Russell Peachey.

Cafwyd hyd i Russell Peachey, 35 oed, yn anymwybodol mewn stryd yn Grangetown ym mis Awst y llynedd. Bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Roedd James Williams wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ond wedi gwadu ei lofruddio.

Ond fe benderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd yn unfrydol heddiw bod Williams yn euog o lofruddiaeth.

Cafwyd ei gyd-ddiffynnydd Christopher Smith, 35, o Gwrt Caerau, Caerdydd yn ddieuog o lofruddiaeth.

Roedd pedwar dyn wedi’u cyhuddo o’i lofruddio ar ôl ymyrryd yn y ffrae yn y stryd.

Cafwyd Dean Beasley, 37, o’r Barri, a Shaminder Singh, 40, o Grangetown, Caerdydd yn ddieuog o lofruddio Russell Peachey fis diwethaf.