Mae ymchwiliad ar y gweill i farwolaeth carcharor a gafodd ei ddarganfod yn farw yng ngharchar Abertawe dros y penwythnos.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth y Carchardai, cafodd Dean George, 40 oed, ei ddarganfod yn farw yn ei gell brynhawn dydd Sul, Ebrill 10.

“Fe geisiodd y staff roi CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd) iddo, ond cafodd ei gyhoeddi’n farw am 4.34yp.

“Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, fe fydd yna ymchwiliad gan Ombwdsmon annibynnol y Carchardai.”

Mae disgwyl i’r Ombwdsmon lunio adroddiad i achos y farwolaeth a’i gyfeirio at y Crwner.