Yr amodau yn yr eiddo yn Llanelli Llun: RSPCA Cymru
Mae dyn a dynes o Lanelli wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd ar ôl i lys benderfynu nad oedden nhw wedi gofalu am eu hanifeiliaid anwes yn ddigon da.

Roedd Natalie Alker a Steve Alker wedi pledio’n euog i dri throsedd yn ymwneud a’r amodau lle’r oedd eu ci, pum cath a bochdew yn cael eu cadw.

Plediodd Steve Alker yn euog hefyd i ddau drosedd ychwanegol a oedd yn ymwneud â neidr, a’i fethiant i sicrhau ei fod yn cael y gofal priodol.

‘Ysgarthion ymhob ystafell’

Yn ôl RSPCA Cymru, roedd yr anifeiliaid yn byw mewn amgylchedd “gwbl amhriodol”, gyda chyflwr y tŷ lle roedden nhw’n cael eu cadw yn “ofnadwy”, gyda “gwerth misoedd o ysgarthion ymhob ystafell.”

“Rydym bob amser yn annog darpar berchnogion i ymchwilio’n fanwl i’r gofal sydd ei angen ar anifail egsotig cyn cael un, gan fod angen i berchnogion sicrhau eu bod yn gallu darparu’r amgylchedd y mae eu hanifail ei angen,” meddai’r arolygydd ar ran y RSPCA, Keith Hogben.

Mae’r cwpl hefyd yn wynebu gorchymyn cymunedol 12 mis, 70 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £300 mewn costau llys a thâl ychwanegol o £60.

Yn ôl y RSPCA, bydd yr holl anifeiliaid oedd yn eiddo i Natalie Alker a Steve Alker yn cael mynd i gartref arall.