Adam Johnson
Mae’r pêl-droediwr rhyngwladol o Loegr, Adam Johnson, wedi dechrau apêl yn erbyn ei ddedfryd o garchar am chwe blynedd am gynnal gweithgarwch rhywiol gyda merch o dan oed.
Cafodd yr asgellwr, 28 oed, sydd wedi cynrychioli Sunderland, Manchester City a Lloegr ei garcharu fis diwethaf ar ôl cael ei ddyfarnu’n euog yn Llys y Goron Bradford am gynnal gweithgarwch rhywiol â merch 15 oed.
Roedd y pêl-droediwr eisoes wedi cyfaddef i drosedd o fynd ati i hudo’r ferch ac achos arall ‘llai difrifol’ o gynnal gweithgarwch rhywiol â hi.
Mae wedi dod i’r amlwg fod tîm cyfreithiol Adam Johnson wedi cychwyn apêl yn erbyn ei ddedfryd.
‘Niwed seicolegol’
Wrth gyhoeddi’r ddedfryd fis diwethaf, dywedodd y Barnwr Jonathan Rose fod y pêl-droediwr wedi achosi “niwed seicolegol difrifol” i’r dioddefwr.
Er hyn, mae mwy na 8,000 o bobol wedi ‘hoffi’ ymgyrch apêl Adam Johnson ar Facebook sy’n cael ei weinyddu gan ei chwaer.
Mae adroddiadau hefyd yn honni y gallai Adam Johnson gael ei symud yn fuan o garchar Armley yng ngorllewin Swydd Efrog i garchar yn nes at ei gartref yn Durham.
Ond, nid yw’r gwasanaethau carchar wedi rhyddhau unrhyw fanylion pellach am hynny.