Margaret Challis
Mae cwest yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Aberdâr heddiw i farwolaeth pedwar o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ar yr A470 ym Mhowys y llynedd.

Digwyddodd y ddamwain ger Storey Arms, Aberhonddu ar 6 Mawrth 2015.

Bu farw Alesha O’Connor, Rhodri Miller a Corey Price – ill tri yn 17 oed, ynghyd â Margaret Challis, 68, oedd yn teithio yn y car arall.

Cafodd saith dyn eu harestio yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed Powys wedi’r digwyddiad.

Ond, daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i’r casgliad ym mis Medi’r llynedd nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn y saith am droseddau’n ymwneud ag achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus neu’n esgeulus.