Mae lle i gredu bod gyrrwr tractor wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda thrên yn Swydd Norfolk.

Cafodd nifer o bobol eu hanafu yn y gwrthdrawiad ar groesffordd ym mhentref Roudham am oddeutu 12.30 brynhawn Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, a chafodd nifer o bobol driniaeth yn y fan a’r lle, ac fe gafodd 10 o bobol eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r digwyddiad wedi achosi cryn oedi yn ardal Norwich.