Mae ymchwiliad ar y gweill i lofruddiaeth dyn 23 oed wedi ffrwgwd ar stryd yn Brighton.

Cafodd y dyn ei daro gan lori yn dilyn y ffrwgwd am oddeutu 2.40 fore Sul, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.