Mae pleidiau bychain yr Alban wedi dweud eu bod nhw’n anelu i ennill seddau ym mhob rhanbarth o’r wlad yn yr etholiadau cenedlaethol ym mis Mai.
Gobaith i'r pleidiau bychain yn etholiadau'r Alban
Dywed y Blaid Werdd fod ganddyn nhw “siawns go dda” o ennill ym mhob rhanbarth, ac y gallen nhw ychwanegu at eu 10 aelod seneddol presennol.
Mae rhagolygon hefyd yn awgrymu y gallai UKIP ennill saith sedd.
Mae nifer aelodau’r Blaid Werdd wedi codi ers y refferendwm annibyniaeth yn 2014, ond mae UKIP yn dal ar y blaen o ran pleidleisiau ers hynny.
Mae’r ddwy blaid yn canolbwyntio ar ennill seddau rhanbarthol sy’n cael eu hennill drwy gynrychiolaeth gyfrannol.
Dywedodd cydlynydd ymgyrch y Blaid Werdd yn yr Alban, Patrick Harvie wrth raglen ‘Sunday Politics’ y BBC y byddai cynyddu eu seddau’n “gam gwych”.
“Pe baen ni’n mynd o ddau aelod seneddol i saith, fyddwn i ddim yn gweld hynny fel methiant,” meddai.
UKIP
Er y rhagolygon addawol i UKIP, cyfaddefodd y blaid nad ydyn nhw’n credu y byddan nhw’n ennill seddau etholaethol.
Mae un o ymgeiswyr UKIP eisoes wedi bod dan y lach yr wythnos hon.
Cyhoeddodd Jack Neill, yr ymgeisydd dros Kirkcaldy, luniau ohono ac yntau wedi paentio’i wyneb yn ddu.
Dywedodd llefarydd nad oedd Neill yn “ymwybodol o effaith yr hyn wnaeth e”.
Trethi
Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur wedi galw ar Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon i sicrhau nad yw cytundebau cyhoeddus yn cael eu rhoi i fusnesau sy’n defnyddio dulliau o osgoi talu trethi.