Bu farw dyn yn ei 30au wrth iddo ddringo yn Eryri fore Sadwrn.

Roedd y dyn o Ganolbarth Lloegr yn un o griw o bobol oedd yn cerdded i lawr o’r Grib Goch am oddeutu 11yb.

Cafodd timau achub mynydd Llanberis eu galw am 1 o’r gloch pan nad oedd golwg o’r dyn.

Mae lle i gredu bod gweddill y criw wedi rhoi’r gorau i ddringo oherwydd y tywydd garw.