Dydy bywyd y dyn ddim mewn perygl
Mae dyn a dau lanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio mewn perthynas ag achos o saethu ar ôl i ddyn 34 oed gael ei anafu ym Mryste.

Mae’r tri – dyn 29 oed a llanciau 15 a 17 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio’r dyn y tu allan i dafarn wedi iddo gael ei saethu yn ei ysgwydd.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad am 2 o’r gloch fore Sadwrn.

Dydy bywyd y dyn ddim mewn perygl.

Mae’r tri sydd wedi cael eu harestio yn cael eu holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i gar Peugeot 206 coch.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.