Galw am rannu cyfoeth Cymru'n deg ym mhob ardal
Mae Adam Price wedi galw am greu cynllun i wella economi Cymru.
Yn ôl llefarydd cyllid Plaid Cymru, does gan Gymru “ddim strategaeth economaidd glir”.
Yn hytrach, meddai, yr hyn sydd gan Gymru yw “llyfr siec gweinidogion” ond mae’n dadlau nad yw’n cael ei ddefnyddio “ag unrhyw gysondeb rhesymegol”.
Ar raglen ‘Sunday Politics’ y BBC, dywedodd Adam Price: “Mae gyda ni gytundeb gwerth £80 miliwn ar gyfer canolfan gynadledda yng Nghasnewydd. Iawn, ond dim ond £30 miliwn sydd ar y bwrdd i achub ein cwmni mwyaf, ein diwydiant mwyaf.”
Daw ei sylwadau yn dilyn y newyddion bod cwmni dur Tata Steel yn gwerthu rhannau Prydeinig y cwmni, gan roi miloedd o swyddi mewn perygl.
“Mae’n ymddangos ein bod ni’n defnyddio’r un strategaeth ag y gwnaethon ni yn y 1970au a’r 1980au lle mae llywodraethau’n rhoi cymorth grantiau’n unig yn hytrach na chydweithio gyda chwmnïau, rheolwyr a’r gweithlu gyda’i gilydd i ddod o hyd i strategaeth tymor hir gynaliadwy ar gyfer y cwmnïau unigol hynny ac economi gyfan Cymru.”
Ar y rhaglen, pwysleisiodd Adam Price, sy’n ymgeisydd Cynulliad ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yr angen am sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Cymru a fyddai’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
“Rydyn ni wedi beirniadu’r ddwy lywodraeth am fod yn araf ac am eistedd yn ôl ond mae angen i ni gydweithio.”
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy rhagweithiol yn yr argyfwng dur.
Ategodd wrthwynebiad ei blaid i wario £1 biliwn ar ffordd osgoi’r M4 yn ardal Casnewydd gan fod “perygl go iawn y deuai Cymru’n ficrocosm o broblem greiddiol economi’r DU”.
“Mae ein rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru’n galw am fuddsoddiad a dydy canolbwyntio ar 16 milltir o draffordd tair lôn newydd ddim yn mynd i’n tynnu ni allan o’r sefyllfa economaidd rydyn ni ynddi fel cenedl, nid dim ond un ardal o Gymru.”