Mae teulu dyn a gafodd ei saethu ar gam gan yr heddlu ar drên tanddaearol yn Llundain wedi colli her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i beidio ag erlyn unrhyw un mewn perthynas â’i farwolaeth.

Cafodd Jean Charles de Menezes, 27, oedd yn hanu o Frasil, ei saethu’n farw gan yr heddlu ym mis Gorffennaf 2005 wedi iddo gael ei gamgymryd am hunan-fomiwr. Daeth y digwyddiad bythefnos ar ôl yr ymosodiadau brawychol yn Llundain ar 7 Gorffennaf.

Penderfynodd erlynwyr na ddylid dwyn achos yn erbyn unrhyw un o swyddogion yr heddlu yn dilyn ei farwolaeth, ond apeliodd ei deulu o dan Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol.

Roedd cyfreithwyr ar ran y teulu wedi dadlau yn Strasbwrg bod y penderfyniad yn groes i hawliau dynol.

Ond daeth Llys Iawnderau Dynol Ewrop i’r penderfyniad fod awdurdodau’r DU wedi cynnal ymchwiliad mewn modd priodol, a bod ganddyn nhw’r hawl i ymateb yn y modd y gwnaethon nhw drwy saethu’r unigolyn oedd o dan amheuaeth.

Doedd dim achos i gredu, meddai’r llys, fod unrhyw unigolyn yn gyfrifol am ei farwolaeth mewn modd anghyfreithlon.

Cefndir

Yn 2006, daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i’r casgliad na ddylid erlyn unrhyw un yn dilyn marwolaeth  Jean Charles de Menezes.

Ond yn 2007, cafodd Heddlu Llundain ddirwy o £175,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Daeth rheithgor y cwest i farwolaeth  Jean Charles de Menezes i’r casgliad nad oedd yr hyn a ddywedodd yr heddlu am ei farwolaeth yn gywir, ac fe gafodd rheithfarn agored ei chofnodi.

Yn 2009, cynigiodd Heddlu Scotland Yard setliad ariannol i’r teulu.