Cafwyd bron i 1,000 o blant a phobol ifanc yn eu harddegau yng ngwledydd Prydain eu canfod yn euog o yrru heb yswiriant yn 2014.
Roedd y plentyn ieuengaf i’w gael yn euog yn 11 oed.
Cafwyd 991 o bobol ifanc o dan 17 oed yn euog o’r drosedd, yn ôl ffigurau diweddaraf y DVLA, a hynny’n cyfateb i gynnydd o ddau ym mhob pump dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ond “ewyn y don” yn unig yw’r ffigurau, yn ôl cymdeithas foduro’r RAC, a oedd wedi cael y ffigurau yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth.
‘Nifer syfrdanol’
Cafwyd 961 o fechgyn a 30 o ferched yn euog, yn ôl y ffigurau.
Mae cyfarwyddwr yswiriant yr RAC, Mark Godfrey yn dweud bod y cynnydd yn y dreth premiwm yswiriant yn annhebygol o wella’r sefyllfa.
“Fe wnaethon ni ddarganfod nifer syfrdanol o blant a gafwyd wrth y llyw cyn eu bod nhw hyd yn oed yn ddigon hen i wneud cais am drwydded yrru dros dro, heb sôn am gael gwersi go iawn.
“Yn anffodus, does gennym fawr o ddewis heblaw derbyn y bydd lleiafrif bychan o ddynion ifainc a fydd yn barod i yrru heb drwydded neu yswiriant.”
‘Dynion yn fwy tebygol o yrru heb yswiriant’
Ymhlith deiliaid trwyddedau llawn, mae dynion dair gwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu dal yn gyrru heb yswiriant na menywod.
Roedd cynnydd o 23% yn nifer y dynion dros 65 oed yn gyrru heb yswiriant, a chynnydd o 19% ymhlith menywod o’r un oedran.
Ychwanegodd Mark Godfrey: “Mae’n parhau i fod yn wir mai dynion, a bechgyn, lawer iawn mwy tebygol o gael euogfarn am yrru heb yswiriant na menywod neu ferched.
“Ond yr hyn sy’n peri pryder go iawn yw mai ewin y don yn unig yw’r ffigurau hyn gan fod y diwydiant yswiriant yn amcangyfrif fod oddeutu miliwn o yrwyr heb yswiriant ar y ffyrdd.”