Mae’n debygol y bydd menywod yn ennill £300,000 yn llai na’u cydweithwyr gwrywaidd dros eu bywydau wrth i’r bwlch cyflog barhau i gynyddu, yn ôl adroddiad newydd.
Ar gyfartaledd, fe enillodd menywod yn y DU dros £5,700 yn llai na dynion yn 2015, sy’n dystiolaeth nad yw’r bwlch yn lleihau a bod cyflogau menywod yn tyfu ar raddfa arafach.
Daw’r ffigurau ddiwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched, sy’n galw am gydraddoldeb llawn i ferched ledled y byd eleni.
Yn ôl Fforwm Economaidd y byd, fydd cydraddoldeb cyflog ddim yn dod nes tua 2133, ond rhybuddiodd Robert Half UK, a wnaeth y gwaith ymchwil diweddaraf hwn, y gallai hynny gymryd yn hirach na’r disgwyl.
£300,000 yn llai o gyflog
Roedd ffigurau’r ymchwil yn dangos mai cyfartaledd tâl gweithwyr gwrywaidd yn y DU y llynedd oedd £29,934 ond i fenywod, roedd yn £24,202.
A phan gafodd hyn ei ystyried dros yrfa o 52 o flynyddoedd, roedd yn ymddangos y byddai dynion yn ennill £1,556,568, tra byddai menywod yn ennill £1,258,504 – gwahaniaeth o £298,064.
Yn ôl yr undeb llafur, TUC, mae angen gwneud “llawer mwy” i fynd i’r afael â phroblem y bwlch cyflog yn y DU.
“Mae angen rhagor o swyddi rhan amser o ansawdd da, cyfnod tadolaeth well a mwy o wasanaethau gofal plant am ddim o ddiwedd cyfnod mamolaeth i helpu mamau i fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cael plant,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol, Frances O’Grady.