Heddlu gwrth-frawychiaeth yn Llundain
Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu bygythiad o “ymosodiadau anferth ac aruthrol” gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl y pennaeth cenedlaethol gwrth-frawychiaeth.

Dywedodd Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitan, Mark Rowley, fod gan y grŵp brawychol “gynlluniau i ymosod ar ffordd o fyw pobl yng ngwledydd y Gorllewin.”

Cyfeiriodd at yr ymosodiadau ym Mharis ym mis Tachwedd fel un o gynlluniau’r brawychwyr i ehangu eu hymosodiadau, gan “dynnu’r ffocws o’r heddlu a’r fyddin fel symbolau’r wlad i rywbeth llawer ehangach.”

“Rydych yn gweld grŵp brawychol sydd ar yr un llaw wedi bod yn gweithredu fel cwlt i ddefnyddio propaganda i radicaleiddio pobol i weithredu yn eu henw… rydych hefyd yn eu gweld yn ceisio adeiladu ymosodiadau mwy.”

Dywedodd fod IS yn ceisio annog cefnogwyr sydd wedi cael hyfforddiant milwrol yn Syria i ogledd Ewrop i gynnal ymosodiadau.