Myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Byw yn Gymraeg mewn prifysgolion
Mae grŵp o gynrychiolwyr myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru wedi galw am wrthod y safonau iaith fydd disgwyl i brifysgolion eu dilyn.
Mewn llythyr at un o bwyllgorau’r Cynulliad, a fydd yn trafod y safonau heddiw, mae’r myfyrwyr wedi dweud y dylai wrthod y safonau gan ganiatáu rhagor o amser i fynd i’r afael â “phroblemau difrifol”.
Cynrychiolwyr undebau Cymraeg ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, Aberystwyth, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant sydd wedi arwyddo’r llythyr, sy’n honni y byddai’r safonau newydd yn cyfyngu defnydd yr iaith mewn prifysgolion.
‘Lleihau’ dyletswyddau iaith
Yn ôl y myfyrwyr, byddai’r gofyn cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghanolfan Pontio ym Mangor a Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn cael eu hepgor ac y byddai’r disgwyl i brifysgolion ddelio â phob gohebiaeth Cymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd hefyd.
“Hyd y gwelwn, canlyniad y cymalau hyn yw cyfyngu’r holl Safonau cyflenwi gwasanaethau i restr gul o weithgareddau yn ymwneud ag elfennau o ddarparu rhai gwasanaethau i fyfyrwyr. Ymddengys fod hyn wedi’i wneud heb unrhyw drafodaeth gyda’r cyhoedd na myfyrwyr,” meddai’r llythyr.
“Gan gofio fod prifysgolion a sefydliadau addysg yn gyrff mawr o bwys cenedlaethol i’n gwlad, mae’n annerbyniol lleihau’n sylweddol ar y dyletswyddau ieithyddol sydd arnynt eisoes dan y gyfundrefn cynlluniau iaith Gymraeg.
“Dyna’n union fyddai canlyniad cymeradwyo’r is-ddeddfwriaeth ffaeledig hon.”
Dim llety Cymraeg
Mae pryder hefyd y bydd y safonau newydd yn golygu nad oes disgwyl i rai prifysgolion ddarparu llety cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr, fel sydd yn Aberystwyth a Bangor ar hyn o bryd.
Mae’r myfyrwyr hefyd yn dweud mai’r ofn ydy nid yn unig fydd y gwaith yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg – yn groes i ganllawiau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch – ond y bydd yr adborth yn cael ei gyflwyno’n Saesneg ar waith Cymraeg.
“Canlyniadau andwyol”
“Byddai cymeradwyo Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) yn eu ffurf bresennol yn creu dryswch a chanlyniadau andwyol o ran cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein prifysgolion a sefydliadau addysg,” meddai’r myfyrwyr.
“Fel yr ydym wedi dangos, ni fyddai eu cymeradwyo yn gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn sicr ni fyddai’n cynyddu defnydd gwasanaethau Cymraeg – gan y byddai llai ar gael. Ni fyddai ychwaith yn cyflawni’r nod o wella cysondeb o fewn y sector gan y bydd mwy o anghysondeb o fewn sefydliadau unigol.
“Credwn mai’r peth cyfrifol a rhesymol i Aelodau’r Pwyllgor ei wneud yw gwrthod Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), gan ganiatáu mwy o amser i drafod goblygiadau’r pwyntiau uchod ac i sicrhau is-ddeddfwriaeth gadarn o ran ystyr, sy’n dderbyniol i’r sefydliadau a’r defnyddwyr.”
Yr wythnos ddiwethaf, bu’r myfyrwyr yn arwyddo wal ‘Byw yn Gymraeg’ i alw am fwy o wasanaethau Cymraeg o fewn eu prifysgolion.
Ymateb Comisiynydd y Gymraeg
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Fe gynhaliodd y Comisiynydd ymchwiliadau safonau i sefydliadau addysg uwch rhwng Tachwedd 2014 a Chwefror 2015, sef ymarferiad casglu tystiolaeth gan sefydliadau a’r cyhoedd ynglŷn â beth sy’n rhesymol ac yn gymesur i sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.
“Cyflwynodd y Comisiynydd adroddiadau safonau i Weinidogion Cymru ar 2 Mehefin 2015 yn seiliedig ar gasgliadau’r ymarferiad hwn. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw llunio Safonau’r Gymraeg. Mae Gweinidogion Cymru wedi paratoi y rheoliadau hyn ac yn eu llywio drwy’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.
“Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi derbyn copi o ohebiaeth yr undebau myfyrwyr at Aelodau Cynulliad.”