Fe fydd buddsoddiad ychwanegol gwerth £165,000 i ddatblygu rhaglen sy’n annog pobl o gefndiroedd difreintiedig i ymhél â gweithgareddau diwylliannol yn cael ei gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Un o’r ardaloedd arloesi sydd wedi manteisio ar y cynllun – ‘Cyfuno: Trechu Tlodi drwy Ddiwylliant’, gan Lywodraeth Cymru yw Wrecsam.
Wrth ymweld â’r dref heddiw, fe fydd Ken Skates yn croesawu’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn beilot y llynedd, lle wnaeth mwy na 1,500 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys hybu plant i fanteisio ar amgueddfeydd, ac annog oedolion di-waith i ddatblygu eu sgiliau.
‘Cyfoethogi bywydau’
“Mae Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn llwyr gydnabod y rôl sydd gan y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant i’w chwarae o ran cyfoethogi bywydau pobl,” meddai Hugh Jones, Cynghorydd ward Yr Orsedd, Wrecsam.
Esboniodd fod 30 o bartneriaid yn rhan o’r cynllun yn yr ardal, gan gynnwys Oriel Wrecsam a Llenyddiaeth Cymru yn eu plith.
Fe ddywedodd fod llyfrgell dros dro wedi ei threialu ar ystâd Parc Caia, lle’r oedd pobl yn manteisio ar wasanaethau e-lyfrgell i wella llythrennedd a chynhwysiant digidol.
Bwriad y cynllun, meddai, yw “ennyn diddordeb ein cymunedau mewn cyfleoedd newydd a fydd yn annog pobl i anelu’n uwch, i ddatblygu eu sgiliau a’u gwneud yn fwy abl i ddod o hyd i waith.”
Mwy o ardaloedd arloesi
“Mae’n amlwg bod y fenter hon yn un sy’n werth buddsoddi ynddi a dw i’n hynod falch ein bod yn rhoi cymorth ariannol a fydd yn caniatáu i’r cynllun fynd o nerth i nerth,” meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog.
Mae ardaloedd arloesi eraill i’w cael yng Ngwynedd, Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful, Casnewydd a Thorfaen ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mwy ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf.
“Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ddatblygu sgiliau newydd ac i feithrin hyder drwy wneud pethau fel helpu i redeg amgueddfa, cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a cherddorol, neu wirfoddoli.”