Llys Ynadon Caerdydd
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn o Gaerdydd wythnos ddiwethaf.

Mae Stephen John Pike,  58 oed, wedi’i gyhuddo o lofruddio Clint Simms, 39 oed, yn Nhrelái, Caerdydd ddydd Iau, 3 Mawrth.

Cafwyd hyd i Clint Simms wedi’i anafu yn Heol Glyndwr, Trelái am 11.31yb fore dydd Iau.

Fe ymddangosodd Stephen Pike,  o Drelái, gerbron Llys Ynadon Caerdydd  heddiw ar gyhuddiad o lofruddiaeth a dau gyhuddiad o fod a chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Fe siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig yn ystod y gwrandawiad byr a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 8 Mawrth.