Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod am gyflwyno mesur amgen i Gymru yn lle fersiwn Ysgrifennydd Cymru.
Mewn datganiad gerbron y Cynulliad, fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’r ‘Bil Drafft Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru’ yn darparu “setliad datganoli sefydlog a hir ei barhad i bobol Cymru.”
Fe ychwanegodd fod y Mesur yn cyflwyno mwy o feysydd y gellid eu datganoli ac, oherwydd hynny, yn “rhoi diwedd ar y blynyddoedd o ymrafael cyfansoddiadol sydd wedi bod yn un o nodweddion hanes datganoli Cymru dros y 18 mlynedd ddiwethaf, ac i ddod â system Cymru’n agosach at y drefn ddatganoli yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”
‘Diffyg ymgynghori’
Daw hyn wedi i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror y byddai’n oedi cyn cyflwyno Mesur Drafft Cymru er mwyn gwneud “newidiadau sylfaenol.”
Fe groesawodd Carwyn Jones y penderfyniad i oedi’r broses, ond fe feirniadodd Swyddfa Cymru am beidio ag ymgynghori ddigon â Llywodraeth Cymru am y mesur.
O ganlyniad, wrth gyflwyno’r Mesur amgen heddiw, fe ddywedodd ei fod yn fesur “cynhwysfawr wedi’i wneud yng Nghymru, sy’n rhoi sylw i’r pryderon hynny ac sy’n darparu ateb sefydlog, hir ei barhad ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
“Mae hyn yn arbennig o ddifrifol yn sgil dyfnder y pryderon a fynegwyd ar draws cymdeithas sifig Cymru am y ffordd yr oedd y cynigion gwreiddiol yn bygwth cyfyngu ar ddemocratiaeth Cymru.”
‘Egluro ffiniau’
Fe esboniodd fod y Mesur yn cynnwys llai o faterion wedi’u cadw’n ôl, ar sail yr egwyddor o sybsidiaredd, ynghyd ag “ystyriaeth fanwl” o’r materion y mae angen ymdrin â nhw ar lefel y DU.
Mae’r Mesur hefyd yn cyflwyno rhai o’r meysydd roedd y Comisiwn Silk yn rhagweld y byddai’n cael eu datganoli dros y ddegawd nesaf, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y gyfraith sifil a throseddol a gweinyddu cyfiawnder.
“Dylai gosod hyn mewn deddfwriaeth, ynghyd ag awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol, helpu’n fawr iawn i egluro ffiniau pwerau datganoledig, gan osgoi mwy o gyfeiriadau drud a hirfaith i’r Goruchaf Lys.”
‘Cynnig atebion’
“Gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio’r ysbaid a gafodd ei greu gan yr oedi i drafod ein cynigion yn adeiladol a gweld eu bod yn cynnig atebion i’r nifer o faterion anodd rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”
‘Llaesu dwylo’
Mewn ymateb i’r Mesur amgen fe ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, fod Llywodraeth Cymru wedi ‘llaesu dwylo’ wrth beidio â sicrhau ymyriad ynghynt.
“Ble mae Llafur wedi bod? Mae ymyriad hwyr y Prif Weinidog ar ddyfodol Cymru’n codi’r cwestiwn: pam na chafodd y cynlluniau hyn eu cyhoeddi yn ystod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU? Gall Cymru fod mewn safle llawer cryfach pe na bai llywodraeth Cymru wedi llaesu dwylo.”
Fe honnodd hefyd fod Llafur wedi colli cyfleoedd i gryfhau’r setliad datganoli sydd ar gynnig i Gymru.
“Y gwir yw bod record ddamniol Llafur o fethu â sicrhau mwy o bwerau yn golygu fod y ddogfen hon fwy neu lai yn ddi-werth. Drwy gysgu wrth y llyw a gwrthod y syniad o dderbyn mwy o gyfrifoldebau mewn llywodraeth, Llafur oedd yn gyfrifol am rwystro sawl agwedd o’r Comisiwn Silk ar fwy o bwerau i Gymru.”
Fe ychwanegodd fod Plaid Cymru wedi “dadlau’n gyson” y dylai Cymru gael cynnig yr un pecyn o bwerau â’r Alban a Gogledd Iwerddon.
“Ni fyddwn yn bodloni ar Gymru’n cael ei thrin fel cenedl eilradd.
“Bydd yr adolygiad ffiniau ar waith ymhen tair blynedd, gan dorri cynrychiolaeth Gymreig yn San Steffan o 40 AS i 29 AS. Dyna pam fod yn rhaid cydbwyso hyn ar frys drwy gynyddu cynrychiolaeth a chyfrifoldebau yn y Cynulliad Cenedlaethol.
“Mae cynlluniau’r Prif Weinidog yn rhy dila, yn rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr, gan lywodraeth sydd wedi methu mynnu parch gartref ac wedi methu hawlio sylw yn San Steffan.”