Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am dreisio saith o ferched yr oedd wedi cyfarfod a nhw ar y we.

Fe fydd Jason Lawrance, 50, o Liphook yn Hampshire, yn gorfod treulio o leiaf 12 mlynedd a chwe mis dan glo, cyn iddo gael ei ystyried am barôl.

Mae Lawrance hefyd wedi cael ei wahardd rhag ceisio cysylltu yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol a’i ddioddefwyr.

Mae’r Barnwr Gregory Dickinson QC wedi mynegi pryder bod pedair o’r merched gafodd eu treisio wedi gwneud cwyn  wrth wefan match.com cyn i dair merch arall gael eu treisio.

Mae wedi  galw am adolygiad i fesurau diogelwch gwefannau tebyg ar y we.

Clywodd y llys bod Lawrance, cyn-gyfarwyddwr cwmni, wedi ymosod ar y merched rhwng mis Mehefin 2011 a mis Tachwedd 2014.

Yn dilyn yr achos, dywedodd match.com eu bod yn croesawu’r ddedfryd heddiw ac mai diogelwch eu haelodau oedd eu “prif flaenoriaeth.”