Ffatri Tata ym Mhort Talbot
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi honni nad yw Gweinidogion Llafur wedi gwneud digon i helpu diwydiant dur Cymru.

Mae Eluned Parrot yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad fu’n clywed tystiolaeth gan ffigurau blaenllaw o’r diwydiant dur heddiw, ddeufis ar ôl i 750 o weithwyr golli eu swyddi ym Mhort Talbot.

Clywodd y pwyllgor gan aelodau o gwmni dur Tata, sy’n gweithredu yn y dref ddiwydiannol, a chwmni Celsa a Liberty Steel yn ogystal ag undebau llafur.

Meddai Eluned Parrot mai ychydig iawn o ddatblygiad sydd wedi bod yn y cymorth gan Lywodraethau Cymru na’r DU i helpu’r diwydiant.

‘Dim camau pendant’

Meddai Eluned Parrott AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr Economi:  “Dro ar ôl tro rydym yn clywed gan Weinidogion Llafur eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu ein diwydiant dur, ond eto ‘dyn ni heb weld unrhyw gamau pendant ar y materion sy’ yn nwylo Llywodraeth Cymru.

“Mae cael gwared a threthi busnes ar offer a pheiriannau yn un peth y dylai’r Llywodraeth Lafur hon ei wneud ar frys.

“Hyd yn oed ar y mater o gaffael cyhoeddus, dim ond heddiw yr ydym yn clywed bod adolygiad yn cael ei gynnal. Mae’r diwydiant dur Cymreig angen ein cymorth ni nawr.

“Nid yw cynadleddau a geiriau cynnes yn ddigon. Mae gormod o amser eisoes wedi cael ei wastraffu, ac mae angen inni weld camau cadarnhaol nawr.”