Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn y cafwyd hyd iddo yn Nhrelái, Caerdydd bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11.31yb fore dydd Iau yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu yn Heol Glyndwr yn Nhrelái.

Cafodd y dyn driniaeth gan barafeddygon ond bu farw yn y fan a’r lle.

Mae dau ddyn, 58 a 37 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd ac mae arbenigwyr fforensig yn archwilio sawl safle yn Nhrelái.

Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu’r dyn.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 5551111 gan nodi’r cyfeirnod 1600074040.