Alton Towers
Bydd perchennog Alton Towers yn cael ei erlyn yn dilyn gwrthdrawiad ar un o’i atyniadau pan gafodd pum person eu hanafu’n ddifrifol.

Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y bydd Merlin Attractions yn ymddangos gerbron y Ganolfan Gyfiawnder yn Swydd Stafford ar Ebrill 22, lle fydd yn wynebu cyhuddiad o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.

Cafodd pum person eu hanafu’n ddifrifol ar atyniad y Smiler, gan gynnwys dwy ddynes a gollodd goes yr un, ar ôl i’w cerbyd wrthdaro yn erbyn cerbyd llonydd ar yr un trac.

Ers y ddamwain, roedd Merlin Attractions, sydd hefyd yn berchen ar Legoland, Madame Tussauds a’r London Eye, wedi gweld gostyngiad yn ei elw. Ond fe gyhoeddodd y grŵp gynnydd o 0.3%  mewn elw cyn treth i i £250m yn ystod y flwyddyn hyd at 26 Rhagfyr o’i gymharu a’r flwyddyn flaenorol.

Mae’n debyg ei fod wedi goroesi’r cwymp “sylweddol” yn nifer yr ymwelwyr i Alton Towers yn dilyn y ddamwain fis Mehefin diwethaf, gan achosi i’r parc gau am bedwar diwrnod.