Fe fydd pennaeth Scotland Yard  yn cwrdd â gweddw’r cyn-ysgrifennydd cartref yr Arglwydd Brittan i esbonio’r modd y gwnaeth yr heddlu ymdrin â honiad o drais rhywiol hanesyddol yn erbyn ei gŵr.

Mae disgwyl i Syr Bernard Hogan-Howe ymddiheuro i Arglwyddes Brittan yn y cyfarfod mewn gwesty yng nghanol Llundain ar ôl i’w gŵr farw ym mis Ionawr y llynedd heb gael gwybod na fyddai’n wynebu unrhyw gyhuddiadau cyfreithiol ynglŷn â’r honiad.

Mae llu heddlu mwyaf Prydain wedi dod o dan y lach ynglyn a’r ffordd y cafodd yr honiad – fod yr Arglwydd Brittan wedi treisio dynes 19 mlwydd oed yn 1967 – ei drin.

Operation Midland

 

Daw’r cyfarfod rhwng Arglwyddes Brittan a Syr Bernard Hogan-Howe yng nghanol craffu dwys o ymchwiliad arall gan y llu, Operation Midland, i honiadau fod pobl bwysig ac uchel eu parch yn rhan o gang o bedoffiliaid yn Llundain.

Yn ogystal â honiadau o gam-drin hanesyddol, roedd yr ymchwiliad hefyd yn ymchwilio i honiadau bod tri bachgen ifanc wedi cael eu llofruddio.

Ond mae’n debyg bod yr ymchwiliad, a oedd wedi costio £1.8 miliwn erbyn mis Tachwedd y llynedd, ar fin mynd â’i ben iddo oherwydd cwestiynau am ba mor ddibynadwy yw’r prif dyst yn yr ymchwiliad.