Mae ymgyrchydd hawliau i bedoffiliaid, a oedd wedi ymuno â’r Blaid Lafur,  wedi cael ei ddiarddel o’r blaid.

Roedd Tom O’Carroll yn cynnal Paedophile Information Exchange (Pie), a oedd yn ymgyrchu i ostwng yr oedran cydsynio rhywiol.

Credir ei fod wedi ymuno â’r blaid yn Barrow, Cumbria, ym mis Medi.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod Tom O’Carroll bellach wedi cael ei ddiarddel gan y blaid.

‘Codi croen gŵydd’

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Barrow a Furness, John Woodcock, ei fod yn “codi croen gŵydd” fod Tom O’Carroll wedi cael ymuno â’r blaid.

 

Meddai John Woodcock AS: ” Nid oes lle yn y Blaid Lafur i ddyn sy’n dal safbwyntiau ofnadwy o’r math hyn ac mae’n codi croen gŵydd ei fod wedi dod yn aelod o’r blaid yn Barrow.

“Pan wnes i gadarnhau pwy oedd Tom O’Carroll dros y penwythnos, ysgrifennais at ysgrifennydd cyffredinol y blaid yn mynnu ei fod yn cael ei ddiarddel ar unwaith a’i wahardd rhag unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd fod y Blaid Lafur wedi gweithredu’n gyflym ar ôl clywed am ei aelodaeth ond  mae hefyd yn galw am adolygiad i sut mae’r blaid yn ymchwilio i gefndir pobl sydd eisiau ymuno.