Y ddamwain drên yn yr Almaen
Mae’r awdurdodau yn yr Almaen yn credu mai “camgymeriad dynol” a achosodd y ddamwain drên yn ne’r wlad wythnos diwethaf, gan ladd 11 o bobl.

Cafodd dwsinau o bobl hefyd eu hanafu ar ôl i  ddau drên wrthdaro a’i gilydd a dod oddi ar y cledrau yn rhannol ar y lein rhwng Rosenheim a Holzkirchen, ger Bad Aibling, tua 40 milltir i’r de-ddwyrain o Munich.

Mae’r prif erlynydd Wolfgang Giese yn dweud bod ei swyddfa wedi dechrau ymchwiliad troseddol yn erbyn dyn 39 mlwydd oed a oedd yn gyfrifol am reoli’r trenau ar y lein ar y pryd.

Dywedodd Wolfgang Giese fod ymchwilwyr yn credu “na fyddai’r ddamwain wedi digwydd petai’r gweithiwr wedi dilyn y rheolau sydd mewn lle.”