Fe gyrhaeddodd chwyddiant ei gyfradd uchaf mewn blwyddyn fis diwethaf wrth i gynnydd mewn prisiau alcohol a dillad arwain at gostau byw uwch.

Fe gododd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, i 0.3% ym mis Ionawr o gymharu â 0.2% ym mis Rhagfyr – a hynny yn sgil cynnydd ym mhrisiau alcohol a dillad.

Roedd prisiau alcohol wedi codi 5.2% rhwng Rhagfyr ac Ionawr, gwirodydd wedi cynyddu 7.5%, cwrw 3.6% a gwin 4.8%.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), dengys hyn fod chwyddiant wedi codi wrth i brisiau tanwydd a bwyd ddisgyn, ond yn is na’r adeg hyn y llynedd. Fe ddisgynnodd pris petrol 2c y litr rhwng Rhagfyr ac Ionawr.

Ond, er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, mae chwyddiant yn parhau ar lefel isel, ac mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd yn parhau’n is na 2% tan y flwyddyn nesaf.

Cyflog Byw Cenedlaethol

“Rydyn ni’n rhagweld y bydd chwyddiant yn parhau i godi ychydig hyd at 1% yn ystod ail hanner y flwyddyn hon, ond mae’n debyg o aros yn is na’r targed o 2% nes 2017,” esboniodd David Kern, prif economegydd Siambr Fasnach Prydain.

“Mae’r risgiau yn ymwneud â’r rhagolwg bod economi’r byd yn gwanhau,” meddai.

“Mae ffigurau isel chwyddiant heddiw yn parhau i ddangos prisiau yn tyfu’n arafach na chyflogau,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys gan rybuddio mai dim ond mis sydd i fynd tan y cyflwynir y Cyflog Byw Cenedlaethol ym mis Ebrill.