Vladimir Putin
Roedd ymosodiadau ar ysbytai yn Syria yn “drosedd ryfel” yn ôl y cyn-ysgrifennydd datblygiad rhyngwladol, Andrew Mitchell.
Mae Rwsia’n cael y bai am gyrchoedd awyr a oedd wedi targedu o leiaf dau ysbyty ac ysgol yng ngogledd Syria ddydd Llun, gan ladd bron i 50 o bobl gyffredin ac anafu dwsinau o bobl eraill.
“Does dim dwywaith ei fod yn drosedd ryfel,” meddai Andrew Mitchell wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Mae Awyrlu Rwsia bellach wedi taro 30 o ysbytai yn Syria – dim ond un o’r rheiny sydd mewn ardal ym meddiant y Wladwriaeth Islamaidd (IS),” meddai.
“Roedd pawb yn gwybod bod hwn yn ysbyty Medecins Sans Frontieres (Doctors Without Borders) ac, heb os, mae hyn yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol ac mae Rwsia yn euog o hynny.”
Rwsia yn gwadu honiadau
Mae Twrci a Ffrainc hefyd yn cytuno bod yr ymosodiadau yn droseddau rhyfel ond mae llefarydd ar ran yr Arlywydd Vladimir Putin wedi gwadu honiadau mai awyrennau rhyfel Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.
Dywedodd yr AS Ceidwadol nad oes “dim byd y gallwn ni wneud ar hyn o bryd i herio Rwsia ond fe allen nhw gael eu dwyn i gyfrif yn y dyfodol.”
Daeth yr ymosodiadau ddyddiau’n unig ar ôl i Rwsia ac arweinwyr byd eraill gytuno i ohirio’r brwydro o fewn wythnos er mwyn caniatáu i gymorth dyngarol gyrraedd yr ardaloedd sydd mewn angen, a rhoi’r gorau i ymosodiadau ar bobl gyffredin.
Ond mae Arlywydd Syria Bashar al-Assad wedi codi amheuon ynglŷn â’r cadoediad gan rybuddio nad yw’n golygu y bydd pawb sy’n gysylltiedig yn rhoi eu harfau o’r neilltu.