Mae lle i gredu mai pump aelod o’r band indie ‘Viola Beach’ yw’r Prydeinwyr a gafodd eu lladd pan blymiodd eu car i mewn i gamlas yn Stockholm ddydd Sadwrn.

Daeth cadarnhad gan y Swyddfa Dramor bod pump o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu lladd.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cefnogi eu teuluoedd.

Daeth yr heddlu o hyd i’w cyrff wedi i’w car syrthio mwy na 25 metr oddi ar bont i mewn i’r gamlas.

Roedd y bont wedi cael ei hagor er mwyn galluogi bad i fynd ar hyd y gamlas.

Roedd y band o Warrington yn Swydd Gaer ar daith yn Sweden, ac mae teyrngedau wedi cael eu gadael ar wefannau cymdeithasol.

Bydd ymchwiliad yn dechrau ddydd Llun.