Mae dyn 39 oed wedi cael ei gyhuddo dynes 36 oed yn Bury yn Swydd Gaerhirfryn.

Cafwyd hyd i gorff Leanne Wall yn ei chartref toc cyn 7.50 fore Gwener.

Cafodd William Mack ei arestio’n ddiweddarach a’i gyhuddo o’i llofruddio.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad y bu farw’r ddynes o anafiadau wedi i’w gwddf gael ei gwasgu.

Mae disgwyl i Mack ymddangos gerbron ynadon Bury a Rochdale ddydd Llun.