Julian Assange
Credir fod panel o arbenigwyr cyfreithiol y Cenhedloedd Unedig wedi penderfynu bod sylfaenydd WikiLeaks Julian Assange yn cael ei gadw’n anghyfreithlon.
Mae Julian Assange wedi bod yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain am fwy na thair blynedd wedi iddo gael lloches wleidyddol gan lywodraeth y wlad.
Mae’n credu y bydd yn cael ei anfon i’r Unol Daleithiau i gael ei holi am weithgareddau WikiLeaks, os yw’n cael ei estraddodi i Sweden. Mae achos ysbio yn ei erbyn yn yr Unol Daleithiau.
Roedd wedi gwneud cwyn yn erbyn Sweden a’r DU ym mis Medi 2014 sydd wedi cael ei ystyried gan banel o arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r grŵp o arbenigwyr cyfreithiol wedi gwneud dyfarniadau blaenorol ynglŷn ag yw person wedi eu carcharu yn gyfreithlon, sydd wedi arwain at bobl yn cael eu rhyddhau.
Mae disgwyl i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi yfory ond mae adroddiadau fod y panel wedi dyfarnu o blaid Julian Assange.
Dywedodd Assange y byddai’n mynd at yr heddlu ddydd Gwener os yw’r panel yn dyfarnu nad yw wedi cael ei gadw’n anghyfreithlon.
Mae’r Heddlu Metropolitan wedi dweud y byddant yn gwneud “pob ymdrech” i arestio sylfaenydd WikiLeaks petai’n gadael y llysgenhadaeth.
Mae’r awdurdodau yn Sweden eisiau holi Julian Assange dros honiad ynglŷn ag ymosodiad rhyw. Mae wedi gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn ac wedi brwydro yn erbyn cael ei estraddodi.
Mae wedi bod yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador ers 2012.