Roedd mwy o bobol yn gwrando ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn ystod tri mis olaf 2015 yn ôl ffigurau diweddaraf, Rajar.
108,000 o wrandawyr wythnosol oedd gan Radio Cymru yn nhri mis olaf y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd o 4,000 ers i’r gynulleidfa fod ar ei lefel isaf erioed yn y chwarter blaenorol.
Gwelwyd cynnydd o 25,000 yn ffigurau Radio Wales, gyda’r orsaf yn llwyddo i ddenu 409,000 o wrandawyr bob wythnos.
Cwymp yng ngorsafoedd eraill
Bu cwymp ar y cyfan yn sector fasnachol radio yng Nghymru gyda gwrandawyr Capital Gogledd Cymru yn disgyn o 212,000 i 147,000 a chynulleidfa Capital De Cymru yn gostwng o 215,000 i 161,000.
Roedd gorsafoedd Radio Carmarthenshire wedi denu 8,000 yn llai o wrandawyr yn wythnosol, gyda 32,000 o bobol yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos yn nhri mis olaf 2015.
Bu gostyngiad yng ngwrandawyr Radio Ceredigion hefyd, o 18,000 i 17,000 bob wythnos, a chwymp o 2,000 yn ffigurau Radio Pembrokeshire, gyda 36,000 bellach yn gwrando bob wythnos.
Cafodd Heart Gogledd Cymru gynnydd bach, gyda 10,000 ychwanegol yn gwrando, gan gynyddu’r cyfanswm wythnosol i 146,000.
Ar y llaw arall, gostwng bu nifer o wrandawyr Heart De Cymru, gyda 30,000 yn llai, gan gwympo i 522,000 o wrandawyr wythnosol.
Roedd gorsaf Swansea Sound wedi cwympo i 52,000 o wrandawyr yr wythnos, gan golli 18,000. Tra bod yr orsaf arall yn Abertawe, The Wave wedi elwa ar gynnydd bach gan gyrraedd 149,000 o wrandawyr bob wythnos.