Fe allai Penaethiaid a Phrif Swyddogion Tân ddod yn benaethiaid ar y gwasanaeth heddlu, er nad oes ganddyn nhw brofiad o ddelio â throseddau.

Y bwriad yw gwella cydweithrediad rhwng y gwasanaethau brys yn Lloegr.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gadarnhau eu bod yn bwrw mlaen gyda’r mesurau heddiw, sy’n rhoi caniatâd i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu fod yn gyfrifol am eu hawdurdod Tân ac Achub lleol.

Mae’n golygu y byddai un Prif Swyddog yn atebol i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar ran y Frigâd Dân a’r Heddlu. Oddi tano, fe fyddai Uwch Swyddog Tân yn gweithredu ar ran y Frigâd Dân, a Dirprwy Brif Gwnstabl yn gweithredu ar ran yr heddlu.

Fe all Prif Gwnstabliaid ac Uwch Swyddogion Tân ymgeisio am y rôl, ac mae’n rhan o strategaeth ehangach i bontio’r bwlch rhwng y gwasanaethau brys.

Mae trefniadau eraill yn cynnwys rhannu’r un pencadlys a swyddfeydd, ond mae’r Llywodraeth yn mynnu y byddan nhw’n parhau i weithredu’n annibynnol.

Camgymeriad’

Mae llefarydd ar ran Undeb y Frigâd Dan wedi dweud bod y cynllun yn “gamgymeriad.”

“Mae gadael i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu gymryd cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn arbrawf drud a does dim sicrwydd y bydd yn llwyddo,” ychwanegodd.

Fe ddywedodd Steve White, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr: “Mae swyddogion o’r ddau wasanaeth brys yn gweithio gyda’i gilydd o wythnos i wythnos yn barod,” meddai gan gyfeirio at y llifogydd diweddar.

“Felly pam mae angen newid brys yn y gyfraith? Mae fel defnyddio gordd i hollti cneuen.”

Cymwysterau

Fe esboniodd y Gweinidog dros Heddlu a Gwasanaethau Tân, Mike Penning ei fod yn credu bod “gweithio’n well gyda’i gilydd yn datblygu’r gwasanaethau brys, darparu arbedion sylweddol a chynhyrchu manteision i’r cyhoedd.”

“Mae’n golygu gweithio’n ddoethach. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i wasanaethau brys gael lleoliadau gwahanol, swyddfeydd a systemau TGCh gwahanol pan maen nhw’n gweithio mor agos ac yn rhannu’r un ffiniau yn aml iawn.”

Fe alwodd Llefarydd Llafur ar y Gwasanaethau Tân, Lyn Brown am sicrwydd “y bydd gwasanaeth tân statudol yn cael eu cynnal ymhob rhan o’r wlad.”

Ac mae prif weithredwr y Coleg Heddlua, y Prif Gwnstabl Alex Marshall am glywed mwy am y cymwysterau proffesiynol y bydd rhaid i’r Swyddogion Tân eu cwblhau cyn dod yn Brif Swyddog.

“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i holl brif swyddogion yr heddlu lwyddo mewn proses ddewis llym a chwrs hyfforddi i gael eu rôl, ac mae’n bwysig nad yw hynny’n cael ei wanhau.”

Er hyn, fe fydd y ddeddf sy’n atal aelod o’r heddlu rhag dod yn swyddog tân yn parhau, ac ni fydd gan swyddog tân yr hawl i arestio.

Fe fydd y mesurau yn berthnasol i Loegr yn unig.