Mae cyfarwyddwr cyfleuster i garcharorion ifanc sy’n cael ei redeg gan gwmni diogelwch, G4S, wedi ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth o’r modd mae’n cael ei reoli.

Bydd Ralph Marchant yn rhoi’r gorau i’w swydd yn syth yng Nghanolfan Hyfforddi Diogelwch Medway yn Rochester, ond bydd yn parhau i weithio gyda G4S.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn honiadau o gam-drin pobol ifanc yn y ganolfan a ddaeth i’r amlwg mewn rhaglen Panorama y BBC.

Does dim honiadau penodol yn ei erbyn ond mae pum aelod o staff sy’n cael eu gweld ar y rhaglen, yn defnyddio tactegau amhriodol i reoli’r bobol ifanc, wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y Prif Arolygydd carchardai Nick Hardwick bod y diffyg rheolaeth yn y ganolfan wedi methu a diogelu’r bobl ifanc yno sydd rhwng 12 a 17 oed.