Llys y Crwner, yn Warrington
Mae’r rheithgor yn y cwest i achos Hillsborough wedi cael clywed mai un o’r penderfyniadau fydd yn rhaid iddyn nhw ei ystyried yw a gafodd y 96 o gefnogwyr a fu farw yn ystod gem bêl-droed yn 1989 eu lladd yn anghyfreithlon.

Ar ôl bron i ddwy flynedd o gasglu tystiolaeth, mae’r Crwner, Syr John Goldring, wedi dechrau crynhoi’r dystiolaeth i achos Hillsborough ar 15 Ebrill 1989, pan oedd Lerpwl yn wynebu Nottingham Forest yn rownd gynderfynol y Cwpan FA.

Sut y bu farw pob un o’r 96 o bobl yn y trychineb yw’r  cwestiwn “pwysicaf, anoddaf a mwyaf dadleuol” i’w ateb, meddai’r crwner.

Fe ddywedodd wrth y rheithgor o saith dynes a thri dyn mai un o’r materion allweddol y byddai’n rhaid iddyn nhw benderfynu arno yw ymddygiad Prif Arolygydd Heddlu De Efrog, David Duckenfield.

Ond, fe rybuddiodd fod rhaid iddyn nhw fod yn siŵr am gyfres o gwestiynau cyfreithiol cyn ei gael yn gyfrifol am achosi, neu fod yn un o achosion y trychineb.

‘Penderfyniad i agor Mynedfa C’

 

Fe awgrymodd y Crwner y gallai’r rheithgor edrych ar gefndir proffesiynol David Duckenfield, a’i ddiffyg profiad mewn gêm bêl-droed mor fawr.

Fe awgrymodd hefyd y gallent edrych ar ei weithredoedd wedi’r penderfyniad am 2.52pm i agor Mynedfa C, gan adael tua 2,000 o gefnogwyr i mewn i’r corlannau canolog a oedd eisoes yn orlawn tu ôl y goliau yn Leppings Lane.

Ni wnaeth David Duckenfield ddweud wrth yr heddlu yn syth ei fod wedi gorchymyn i’r gatiau gael eu hagor, wrth i sïon ledu fod y cefnogwyr wedi’u gwthio ar agor.

Fe gafodd y rheithgor holiadur yn gofyn cwestiynau am rôl David Duckenfield, ymddygiad cefnogwyr Lerpwl, y gwasanaethau brys a diogelwch y stadiwm.

Ond, roedd y chweched cwestiwn yn ymwneud yn uniongyrchol â rôl David Duckenfield yn y trychineb.

‘Heb angerdd nac emosiwn’

Fe rybuddiodd y Crwner fod yn rhaid i’r rheithgor ystyried eu penderfyniadau “heb angerdd nac emosiwn.”

“Fydden ni ddim yn fodau dynol petaem ni ddim yn teimlo’r cydymdeimlad dynol pwerus i’r rhai sydd wedi’u heffeithio mewn amrywiol ffyrdd gan y trychineb a’i ganlyniad,” ychwanegodd y Crwner.

Ond, fe rybuddiodd fod rhaid neilltuo’r teimladau hynny a “chyfeirio at y dystiolaeth heb angerdd nac emosiwn.”

“Allwch chi ddim gwneud canfyddiadau allweddol oni bai eu bod wedi’u cyfiawnhau gan ffeithiau.”

Mae disgwyl iddo gymryd hyd at dair wythnos i grynhoi’r dystiolaeth.

Fe ddechreuodd y gwrandawiadau i’r trychineb gwaethaf yn hanes y byd chwaraeon ym Mhrydain yn Warrington, Swydd Gaer ar 31 Mawrth 2014.