Yr Arglwydd Cecil Parkinson
Mae’r Arglwydd Cecil Parkinson wedi marw ar ol brwydr hir gyda chanser, meddai ei deulu.
Roedd yn 84 oed.
Bu’n gadeirydd cenedlaethol y Blaid Geidwadol ddwywaith ac yn weinidog yng nghabinet Margaret Thatcher ond bu bron i’w yrfa ddod i ben yn dilyn ei garwriaeth â’i ysgrifenyddes, Sara Keays.
Ymddiswyddodd o’i rôl yng nghabinet Thatcher, misoedd ar ôl iddo chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth y blaid yn yr etholiad cyffredinol yn 1983, fel cadeirydd y Ceidwadwyr.
Cafodd Sara Keays ferch ag e, o’r enw Flora, ac er iddi honni ei fod wedi addo gadael ei wraig a’i phriodi, arhosodd Cecil Parkinson wrth ochr ei wraig, Ann, tan y diwedd.
Yn 1987, cafodd ei benodi eto gan Margaret Thatcher yn ysgrifennydd ynni ac yn 1989 yn ysgrifennydd trafnidiaeth, ond ymddiswyddodd o’r cabinet o dan arweinyddiaeth John Major.
Daeth yn gadeirydd y blaid eto yn 1997, ar ôl cael ei benodi gan William Hague a ddaeth yn arweinydd ar ôl John Major.
Roedd wedi ymddeol o Dy’r Arglwyddi ym mis Medi’r llynedd.