Henry Worsley
Mae’r anturiaethwyr a oedd ar fin gwneud hanes fel y person cyntaf i groesi’r Antarctig heb gymorth, wedi marw.

Fe fu farw Henry Worsley, a fu’n gyn swyddog gyda’r Fyddin, mewn ysbyty yn Punta Arenas yn Chile ddydd Sul ar ôl i’w organau fethu.

Roedd wedi bod yn teithio ar draws yr Antarctig am 71 diwrnod gan gwblhau 913 milltir mewn amodau difrifol. Fe frwydrodd yn erbyn tymereddau o -44C o dan y rhewbwynt a stormydd rhew ac eira peryglus.

Ond, ddydd Gwener, fe fu’n rhaid i’r gŵr 55 oed, sy’n wreiddiol o Fulham, yn ne orllewin Llundain, roi’r gorau i’r daith, er ei fod o fewn 30 milltir i’w chwblhau a dod y person cyntaf i groesi’r cyfandir heb gymorth.

Fe alwodd am help a chafodd ei gludo i ysbyty yn Punta Arenas yn Chile. Fe gafodd lawdriniaeth ar ôl canfod fod ganddo beritonitis bacteriol,  ond bu farw ddydd Sul.

Shackleton

 

Fe benderfynodd Henry Worsley gymryd at yr her hon er mwyn nodi canrif ers hirdaith Syr Ernest Shackleton, a fu’n arwr mawr iddo.

Roedd hefyd am godi arian at y Gronfa Ymdrech er mwyn helpu milwyr a gwasanaethwyr sydd wedi’u hanafu, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw wella ac ailhyfforddi.

Mewn datganiad, fe ddywedodd ei wraig Joanna ei bod yn “torri’i chalon”, ond fe ddywedodd fod Henry Worsley wedi llwyddo i godi mwy na £100,000 i helpu milwyr sydd wedi’u hanafu.

“Ar fy rhan i a’m teulu, hoffwn ddiolch i’r cannoedd sydd wedi dangos cefnogaeth i Henry drwy gydol ei sialens ddewr a’r haelioni tuag at y Gronfa Ymdrech.”

Mae’n gadael dau o blant hefyd, Max 21 oed ac Alicia 19 oed.

‘Y daith ar ben’

Yn ei ddatganiad olaf iddo anfon o’r Antarctig,  fe ddywedodd: “Mae’r 71 diwrnod ar fy mhen fy hun yn yr Antarctig gyda dros 900 milltir wedi’u gwneud, wedi bod yn rhygnu’n raddol ar fy nycnwch corfforol, ac mae wedi cael y gorau arnaf heddiw. Gyda thristwch mawr dw i’n rhoi gwybod fod y daith ar ben – er mor agos at fy ngôl.”

Haint ar yr abdomen yw peritonitis, ac mae’r symptomau’n cynnwys chwyddo ar yr abdomen, chwydu, oerni, diffyg chwant am fwyd a gwres uchel.

Teyrngedau

Mae David Beckham wedi talu teyrnged i’r anturiaethwr gan ddweud: “Roedd yn ddyn oedd wedi gwasanaethu dros ei wlad am nifer o flynyddoedd ac yn ddyn oedd yn siarad am ei deulu gyda balchder, mae ein meddyliau gyda’r teulu yn y cyfnod anodd hwn.”

Fe ddywedodd wyres Syr Ernest Shackleton, Alexandra Shackleton, y byddai marwolaeth Henry Worsley yn “golled enfawr i’r byd anturio.”

“Mae hwn yn ddiwrnod o dristwch mawr. Mae Henry yn golled enfawr i’r byd anturio ac mae’r ffaith ei fod bron iawn â’i gwneud hi – dim ond 30 milltir i fynd – yn gwneud y sefyllfa’n waeth.”